Cais am dystiolaeth: Rhannwch eich stori ynghylch ynni adnewyddadwy lleol

Y llynedd, cyhoeddodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Faterion Gwledig a’r Amgylchedd dargedau newydd ar gyfer cynhyrchu ynni yng Nghymru. Roedd y targedau’n cynnwys sicrhau bod Cymru’n cynhyrchu 70% o’r trydan mae’n ei ddefnyddio o ynni adnewyddadwy erbyn 2030, a bod prosiectau ynni yn cynnwys rhyw elfen o berchnogaeth leol erbyn 2020.

Nawr, mae Llywodraeth Cymru’n casglu tystiolaeth o’r manteision a’r effeithiau y gallwn eu disgwyl yn sgil cynhyrchu mwy o ynni dan berchnogaeth leol. Dyma faes y mae cydweithfeydd cymunedol ynni adnewyddadwy yn arbenigo arno. Mae’r cais hwn am dystiolaeth yn gyfle i gyfrannu at waith Llywodraeth Cymru er mwyn datblygu polisi ynni cymunedol dan berchnogaeth leol, er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu anghenion cwmnïau cydweithredol yma yng Nghymru. Rydyn ni’n cyflwyno ymateb, a byddai’n wych cael adborth gan y bobl sy’n gweithio ar lawr gwlad ar gyfer hyn. Mae croeso i chi adael sylwadau ar ddiwedd y blog neu e-bostio Ceri-Anne Fidler.

Gallwch ddarllen y cais am dystiolaeth ac ymateb iddo ar wefan Llywodraeth Cymru ond dyma grynodeb o’r pwyntiau mwyaf perthnasol.

Perchnogaeth leol, cydberchnogaeth a pherchnogaeth gymunedol

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y diffiniadau canlynol:

  • Ynni o dan berchnogaeth leol – gosodiadau ynni a leolir yng Nghymru o dan berchnogaeth unigolyn neu sefydliad a leolir yng Nghymru neu sydd â’i brif bencadlys yng Nghymru
  • Dylai cydberchnogaeth gynnwys pobl sy’n byw yng Nghymru, a darparu buddion i Gymru, nid i gyfranddalwyr allanol yn unig.
  • Mae perchnogaeth gymunedol yn cynnwys datblygiadau ynni a leolir yng Nghymru sydd yn hollol o dan berchnogaeth menter gymdeithasol ac y mae eu hasedau a’u helw yn ymrwymedig mewn cyfraith i gyflawni amcanion cymdeithasol a/neu amgylcheddol yng Nghymru.

Ydych chi’n cytuno â’r diffiniadau hyn? Ydyn nhw’n adlewyrchiad cywir o’ch diffiniad chi o’ch sefydliad?

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn awgrymu y gallai cydberchnogaeth o brosiectau mwy fod yn ffordd bwysig o gynyddu nifer y prosiectau cynhyrchu ynni sydd o dan berchnogaeth leol yng Nghymru a sicrhau manteision gwirioneddol a pharhaol i’r cymunedau sy’n cynnal y prosiectau hyn. Oes gennych chi unrhyw brofiad o weithio gyda phrosiectau mwy fel hyn? Beth oedd y manteision i’ch cymuned chi?

Tystiolaeth o fanteision perchnogaeth

Hoffai Llywodraeth Cymru gasglu tystiolaeth o fanteision perchnogaeth. Pa fanteision mae’ch prosiectau chi wedi’u cyflwyno i’ch cymuned ac i Gymru? Gallai hyn gynnwys manteision i’r economi leol, cronfeydd budd cymunedol a manteision anariannol fel grymuso cymunedau, datblygu sgiliau a threchu tlodi tanwydd yn lleol.

Yn eich profiad chi, oes unrhyw heriau penodol yn ymwneud â chydberchnogaeth prosiectau?

Modelau perchnogaeth

Mae’r modelau perchnogaeth a amlinellir gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys prosiectau cydweithredol o dan berchnogaeth gymunedol fel Bro Dyfi Community Renewables; menter gydberchnogaeth rhwng y gymuned a’r tirfeddiannwr fel Transition Bro Gwaun; a phrosiectau sy’n llwyr o dan berchnogaeth y datblygwr, fel fferm wynt Pen y Cymoedd.

  • Pa fodel perchnogaeth mae’ch prosiect chi’n ei ddefnyddio? Beth yw cryfderau a gwendidau’r model hwn?
  • Beth yw’r modelau mwyaf defnyddiol ar gyfer cyflawni cydberchnogaeth a manteision lleol?
  • Oes unrhyw fodelau perchnogaeth eraill y dylai Llywodraeth Cymru eu hystyried?

 

Cyllid

Mae Llywodraeth Cymru’n amlinellu’r hyn y mae’n ei ystyried yn brif ffynonellau cyllid cyfalaf ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Benthycwyr masnachol traddodiadol
  • Cronfeydd cymunedol o brosiectau adnewyddadwy mawr
  • Cynigion cyfranddaliadau

Pa fathau o gyllid ddefnyddiodd eich prosiect chi? Pam wnaethoch chi benderfynu dewis mathau penodol o gyllid? Pa mor hawdd oedd hi i gael gafael arnynt? A gafodd eich model cydberchnogaeth unrhyw effaith ar eich gallu i gael cyllid neu gostau cyllid?

Os wnaethoch chi ddefnyddio cynigion cyfranddaliadau, oedd hi’n anodd cyfyngu hyn i ardal ddaearyddol ac, os felly, pa effaith gafodd hyn ar eich prosiect? Wnaeth hyn leihau ffocws cymunedol eich prosiect? Ydy hi’n bwysicach i’r prosiect fod o dan berchnogaeth a rheolaeth gymunedol neu ydy bod yn berchen ar y cyfalaf yn bwysicach?

Sefydliad ymbarél dielw

Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried y posibilrwydd o sefydlu cwmni ynni dielw ar gyfer Cymru. Drwy’r cais hwn am dystiolaeth, maen nhw hefyd yn ystyried:

  • Oes yna rôl i gwmnïau ynni dielw o ran annog mwy o gydberchnogaeth o brosiectau ynni adnewyddadwy drwy’r cais hwn am dystiolaeth.
  • Dull buddsoddi Cymru gyfan er mwyn codi arian yng Nghymru i helpu i ariannu prosiectau sydd o dan berchnogaeth leol, efallai ar sail ddielw.

Ydych chi’n credu y byddai’r rhain yn ddefnyddiol?

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *