Taliadau Uniongyrchol – Ychydig o gynnydd go iawn, ond cymaint ar ôl i’w wneud…

Mae Vin West wedi bod yn rhiant ac yn ofalwr am dros 30 o flynyddoedd. Ei ferch ef oedd yr unigolyn cyntaf i dderbyn Taliadau Uniongyrchol yng Ngwynedd. Helpodd i sefydlu Fforwm Taliadau Uniongyrchol Gwynedd yn 2000 ac, yn ddiweddar, cefnogodd Wasanaethau Cymdeithasol Gwynedd trwy gyd-gynhyrchu polisi a chanllaw newydd i staff ar Daliadau Uniongyrchol, yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Cafodd ei benodi i nifer o Grwpiau Ymgynghorol Gweinidogol ers 2000, yn fwyaf diweddar y Grŵp Cyfnewid Gwybodaeth ac Ymarfer Taliadau Uniongyrchol. Mae hefyd yn aelod o’r Bwrdd Partneriaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cenedlaethol, a gadeirir gan y Gweinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus, Rebecca Evans AC.

Dyma ei stori…

Yng nghanol y 1990au, nid oeddem ni’n cael unrhyw lwc wrth ofyn i’n hawdurdod lleol am gymorth gyda’r amrywiaeth o therapïau ac ymarferion roedd eu hangen ar ein merch, oedd yn ei harddegau ar y pryd, wrth i ni geisio ei chynorthwyo i ymdopi ag effeithiau parlys yr ymennydd, ac i sicrhau bod ganddi’r cyfle gorau posibl i fod yn iach ac i allu symud. Dro ar ôl tro, cynigiodd yr awdurdod bobl i eistedd gyda’n merch er mwyn ein galluogi ni i fynd allan, ac nid oeddent yn deall nad dyna beth oedden ni, na hithau, ei eisiau.

Yna, clywsom am ddeddfwriaeth Taliadau Uniongyrchol oedd yn cael ei thrafod yn y Senedd, a fyddai’n ein galluogi ni i gyflogi pobl i weithredu yn unol â’n cyfarwyddiadau NI. O’r diwedd, byddai gennym y cymorth roedd ei angen arnom i weithredu’r therapïau, yn ogystal â rhywun i helpu ein merch i ymgymryd â’i diddordebau ac i’n rhyddhau ni i dreulio amser gyda’n plant eraill neu i wneud pethau oedd yn bwysig i ni.

Helpais i sefydlu grŵp ymgyrchu i lobïo’r awdurdod i ymateb i Ddeddf 1996 pan fyddai’n dod i rym ym 1997, ond cymerodd hi bum mlynedd arall o ymgyrchu a chyfarfodydd cyn iddynt gytuno i’n galwadau, ac ein merch ni oedd yr unigolyn cyntaf i dderbyn Taliadau Uniongyrchol. Newidiodd hynny ein bywydau!

Menyw 25 oed gyda gwallt pinc, tatŵs a thyllau corff oedd Cynorthwyydd Personol cyntaf ein merch. Roedd hi’n hyfryd! Roedd rhaid i ni ei haddysgu am y gwaith yr oedd disgwyl iddi ei wneud ond roedd ei hagwedd yn wych o’r cychwyn cyntaf ac arhosodd hi gyda ni am gryn amser cyn ein gadael er mwyn dod o hyd i swydd amser llawn. Cyn hir, roedd hi’n rheoli cartref preswyl.

Dros y blynyddoedd, rydym ni wedi camu’n ôl yn raddol ac wedi cyflogi mwy o Gynorthwywyr Personol. O ganlyniad, dros gyfnod, bydd ein merch yn derbyn gofal 24-awr y dydd gan ei Chynorthwywyr Personol, a byddwn ni yn y cefndir ac ar gael yn ôl yr angen.

Mae ein merch yn byw bywyd llawn iawn – mae’n nofio ac yn mynd i’r gampfa bob wythnos, mae’n ymweld â ffrindiau bob wythnos ac yn cerdded gan ddefnyddio’i heyrn coes bob dydd. Mae hi hefyd wedi dysgu sut i ddefnyddio’r cyfarpar arddweud ar ei gliniadur ac yn defnyddio gwefan o Ganada i ddod o hyd i gyfeillion gohebol. Oherwydd bod ansawdd ei gohebiaeth mor uchel, cafodd hi wahoddiad gan y cymedrolwyr i fod yn wahoddwr ar y safle.

Mae gan Daliadau Uniongyrchol botensial enfawr sy’n cael ei anwybyddu’n llwyr gan rai awdurdodau, yna cael ei archwilio’n rhannol gan eraill a’i gofleidio’n llawn gan nifer fach yn unig. Er gwaethaf y gwelliannau amlwg a dramatig rydym wedi bod yn rhoi gwybod i’r awdurdod amdanynt o ran ansawdd bywyd ein merch, parhaodd agwedd yr awdurdod yn wrthwynebol ac yn ataliol tan yn ddiweddar iawn, a chefais fy ngorfodi i wneud cyfres o gwynion ffurfiol rhwng 2003 a 2014.

Mae rhai mythau llechwraidd a chamddealltwriaethau yn parhau ymysg awdurdodau lleol, sy’n tueddu i ganolbwyntio ar ddiffyg ymddiriedaeth mewn dinasyddion i wario Taliadau Uniongyrchol mewn ffordd synhwyrol a chyfrifol, ond rydym ni, ynghyd â nifer o deuluoedd eraill, wedi dangos ein bod ni wedi gwneud defnydd llawer gwell o’r taliadau bach hyn o gymharu ag unrhyw sefydliad mawr.

Ar adeg pan mae ymchwil wedi dangos dro ar ôl tro bod rhai darparwyr gwasanaethau cymorth masnachol yn rhoi elw o flaen iechyd a diogelwch eu cleientiaid a staff, mae’n hen bryd i awdurdodau lleol gefnogi a hyrwyddo Taliadau Uniongyrchol yn frwdfrydig – gyda’r holl gymorth ac anogaeth sydd eu angen i sicrhau bod unigolion a theuluoedd yn llwyddo.

Mae Llywodraeth Cymru wedi colli amynedd gydag ymdrechion llywodraethau lleol i rannu’r neges, ac wedi defnyddio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i ysgogi trawsnewid sylfaenol a radical yn y ffordd mae gwasanaethau cymdeithasol yn trin a chefnogi pobl anabl a gofalwyr di-dâl. Mantra’r Dirprwy Weinidog blaenorol oedd “Nid yw hi’n ddigon da gwneud pethau mewn ffordd wahanol bellach – rhaid i ni wneud pethau gwahanol nawr!”

Ni allai’r iaith a ddefnyddir yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru, hyd yn oed ym 1997, i “fod yn arloesol”, “yn greadigol” ac i “archwilio dulliau amgen” fod yn gliriach. Nid oedd ‘hawl’ gan ddinasyddion i geisio ffyrdd newydd o drefnu eu cymorth. Yn hytrach, fe’u hanogwyd i edrych mewn ffyrdd mwy dychmygus ar y ffordd roedden nhw eisiau byw eu bywydau ac ar yr hyn oedd yn bwysig iddyn nhw, er mwyn sicrhau bod eu Taliadau Uniongyrchol nid yn unig yn eu helpu nhw oroesi ond hefyd i fyw bywydau egnïol, ymgysylltiol a chynhyrchiol hyd eithaf eu gallu.

Rydym yn deall yn iawn bod llywodraethau lleol wedi eu cwtogi’n sylweddol gan doriadau llywodraeth y DU, ond mae Taliadau Uniongyrchol [ymysg pethau eraill] yn cynnig arbedion i lywodraethau lleol, felly beth yw’r broblem?

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *